Bydd dadl yn cael ei chynnal yn San Steffan ynglyn â’r posibilrwydd o ostwng yr oedran pleidleisio i 16.

Yr Aelod Seneddol Llafur, Jim McMahon, sydd wedi cynnig y ‘Mesur Aelod Preifat’ gyda’r nod o ymestyn yr hawl ddemocrataidd i bobol ifanc ar gyfer etholiadau a refferenda yn y dyfodol.

Ag amser trafod yn brin, a gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei wrthwynebu, mae’n bosib iawn na chaiff y cynnig ei basio. Her arall sydd yn wynebu’r cynnig yw’r posibiliad o ‘gynnig cau’ – cam sydd yn medru cael ei gyflwyno gan Lefarydd Tŷ’r Cyffredin i ddod â’r ddadl i ben.

Er hyn i gyd, mae aelodau’r Blaid Lafur, Plaid Cymru, yr SNP, Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd yn ei gefnogi sy’n golygu bod yna obaith i’r cynnig.

Cymru a’r Alban

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dechrau ymgynghori ynglŷn ag ymestyn yr hawl i bleidleisio i bobol ifanc 16 ac 17 blwydd oed.

Mae pobol y grŵp oedran yma yn yr Alban wedi gallu pleidleisio mewn etholiadau lleol ac etholiadau’r senedd ers 2015.