Mae’r jôcs am aflonyddu rhywiol yn un o’r rhesymau pam nad yw’r sefyllfa’n cael ei datrys, yn ôl llefarydd materion cartref y Blaid Lafur, Diane Abbott.

Daw ei sylwadau ar ôl i Ysgrifennydd yr Amgylchedd orfod ymddiheuro am gymharu bod mewn stiwdio’n cael cyfweliad gyda John Humphrys â “mynd i mewn i ystafell wely Harvey Weinstein”.

Dywedodd Diane Abbott nad oedd y sylw yn ddoniol, ac fe gyhuddodd Michael Gove o ddiraddio menywod.

Dywedodd wrth raglen Andrew Marr y BBC: “Fe wnes i ei glywed a do’n i ddim yn meddwl ei fod e’n ddoniol, yn enwedig yn y Senedd. Mae gwneud aflonyddu rhywiol yn destun jôc yn un o’r rhesymau pam nad yw’n cael ymdriniaeth.

“Rhaid i chi sylweddoli ei fod yn tanseilio ac yn diraddio menywod ac yn tanseilio ac yn diraddio’r sefydliad.”

Menywod yn y Senedd

Dywedodd Diane Abbott fod y Senedd yn lle gwell i fenywod nag yr oedd pan gafodd hi ei hethol yn 1987. Ond dywedodd fod “ffordd hir o’n blaenau”.

“Fe fyddai gyda chi ryw fath o agwedd ymosodol meicro-rywiol – felly byddai menywod yn codi yn y Siambr a’r Torïaid gyferbyn yn ystumio fel pe baen nhw’n pwyso’u bronnau.

“Roedd yna aflonyddu, roedd yna jôcs nad oedden nhw’n ddoniol – yn rhannol oherwydd y ffaith fod yr amgylchfyd yn un i ddynion yn bennaf – 650 o ASau, pan es i yno dim ond oddeutu 20 o fenywod oedd.”

Dywedodd fod y bariau yn San Steffan yn rhannol gyfrifol am ymddygiad y dynion, a’r ffaith fod y dynion yn teimlo bod y cyfan oedd yn digwydd yn yr adeilad yn cael aros o fewn muriau’r adeilad.