Ken Clarke
Mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder, Kenneth Clarke, wedi cefnogi caniatáu camerâu mewn achosion llys, heddiw.

Dywedodd y byddai darlledu sylwadau’r barnwyr wrth iddyn nhw ddedfrydu troseddwyr yn syniad da ac yn rhoi hyder i’r cyhoedd yn y system gyfiawnder.

Ychwanegodd nad oedd yna “unrhyw reswm gwerth chweil” pam na ddylai hynny ddigwydd, a datgelu fod y Prif Weinidog, David Cameron, hefyd yn cefnogi’r cynllun.

Ond rhybuddiodd na ddylai llysoedd barn gael eu troi i mewn i “theatrau” a bod angen cyflwyno’r newidiadau bod yn dipyn, gan ddechrau yn y Llysoedd Apêl a symud ymlaen i Lysoedd y Goron.

Mae darlledwyr wedi bod yn galw am newid y gyfraith ers blynyddoedd, ond ar hyn o bryd mae camerâu wedi eu gwahardd i bob llys yng Nghymru a Lloegr.

Yn ôl Sky News, sydd wedi bod yn ymgyrchu am gynnwys camerâu mewn llysoedd barn, fe fydd y Prif Weinidog yn cyfeirio at y mater yn Nhŷ’r Cyffredin yn hwyrach ymlaen heddiw.