(Llun gan Fiona Hanson, Gwifren PA)
Mae disgwyl y bydd y nifer o Brydeinwyr tew yn codi i dros 26 miliwn erbyn 2030.

Rhybuddia arbenigwyr fod cyfuniad o fwyd rhy gyfoethog, rhy ychydig o ymarfer corff, a diffyg ewyllys ar ran llywodraethau’n debyg o arwain at gynnydd o 11 miliwn yn y nifer o bobl sy’n cael eu diffinio’n glinigol fel rhai gordew  (obese).

Gallai’r gost o safbwynt problemau iechyd yn ymwneud â gordewdra, fel afiechydon y galon, diabetes a canser, olygu £2 biliwn y flwyddyn yn rhagor o gost i’r gwasanaethau iechyd ym Mhrydain. Mae hyn yn gyfystyr â chynnydd o 2% mewn gwario ar iechyd.

Os bydd y tueddiadau presennol yn parhau, fe all bron i hanner dynion y Deyrnas Unedig fod yn ordew erbyn 2030 – o gymharu â 26% ar hyn o bryd.

Daw’r ffigurau o astudiaeth sy’n cael ei chyhoeddi yn y rhifyn diweddaraf o’r cylchgrawn meddygol The Lancet, astudiaeth sy’n darogan cyfraddau gwaeth byth yn America.