Mae adroddiad seneddol yn argymell y dylai taliadau cynnal plant gael eu tynnu’n uniongyrchol o gyflogau neu gyfrifon banc rhieni.

Mae diffygion wrth drosglwyddo’r arian yn effeithio’n andwyol ar deuluoedd a phlant, yn ôl Aelodau Seneddol y pwyllgor Gwaith a Phensiynau.

Eu dadl nhw yw y byddai cymryd yr arian yn uniongyrchol o gyflogau’r tadau neu famau nad ydyn nhw’n byw gyda’u plant yn sicrhau bod y swm briodol yn cyrraedd yr adeg iawn.

Mae’r llywodraeth wrthi’n edrych ar ffyrdd o wneud y system bresennol yn fwy effeithiol ac yn llai costus.

Ar hyn o bryd mae’r Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant, sydd wedi cymryd drosodd waith yr hen Asiantaeth Cynnal Plant, yn costio 50 ceiniog am bob £1 sy’n cael ei derbyn, ac mae tua £3.8 biliwn o arian dyledus i rieni sengl heb gael ei gasglu.

Meddai Anne Begg, cadeirydd y pwyllgor: “Mae’r system bresennol yn gadael llawer o rieni sydd wedi gwahanu heb drefniadau digonol i gynnal plant.

“Mae ein hadroddiad ni’n argymell ei gwneud hi’n ofynnol i bob rhiant nad yw’n byw gyda’i blant dalu cynhaliaeth plant trwy daliadau uniongyrchol o gyflogau neu gyfrifon banc. Byddai hyn yn cynyddu’r nifer o deuluoedd sy’n derbyn taliadau’n llawn ac mewn pryd.”