Mae pryder o fewn un o adrannau’r llywodraeth yn Llundain y gallai eu cynlluniau i dorri budd-daliadau wneud 40,000 o deuluoedd yn ddigartref.
Fe ddaeth hyn i’r amlwg mewn llythyr oddi wrth swyddfa breifat yr Ysgrifennydd dros Gymunedau a Llywodraeth Leol, Eric Pickles, at swyddfa’r Prif Weinidog David Cameron.
Mewn ymgais i arbed £270 miliwn, bwriad y llywodraeth yw cyfyngu’r cyfanswm a gaiff unrhyw deulu mewn budd-daliadau i uchafswm o £500 yr wythnos.
Ond mae Nico Heslop, ysgrifennydd preifat Eric Pickles, yn rhybuddio y byddai’r arbedion yn cael eu dileu gan y gost i awdurdodau lleol o gael hyd i rywle arall i fyw i deuluoedd na all fforddio talu eu rhent. O’r herwydd fe fyddai’r cynllun yn golygu cost ychwanegol yn hytrach na chyfrannu at raglen arbedion y llywodraeth.
‘Cwestiynau ymarferol’
Mae’n rhybuddio y byddai’r uchafswm budd-daliadau’n “codi rhai cwestiynau ymarferol difrifol iawn o ran blaenoriaethau’r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol”.
Dywed fod gwaith modelu gan yr adran yn dangos y gallai’r uchafswm budd-daliadau wneud 20,000 yn rhagor o deuluoedd yn ddigartref – a hynny ar ben 20,000 arall sydd eisoes wedi cael eu rhagweld o ganlyniad i newidiadau eraill i’r budd-dal tai.
“Rydym eisoes yn gweld rhagor o bwysau ar y gwasanaethau digartrefedd,” rhybuddia.Nico Heslop.
Mae’n pryderu hefyd y bydd y toriadau mewn budd-daliadau’n peryglu o leiaf hanner y 56,000 o dai rhent fforddiadwy y mae’r llywodraeth yn gobeithio eu hadeiladu erbyn 2015, gan y bydd contractwyr yn amau a fyddan nhw’n gallu cael digon o rent i ddigolledu eu costau.
Deellir bod y llythyr wedi cael ei ysgrifennu ym mis Ionawr ac nad yw wedi cael ei drafod yn y cabinet. Mae’r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yn gwrthod dweud a oedd Eric Pickles ei hun wedi gweld a chymeradwyo’r llythyr.
Meddai llefarydd ar ei ran: “Rydym yn gwbl gefnogol i bolisïau’r Llywodraeth ar fudd-daliadau. Mae’n amlwg fod angen gwneud rhywbeth i fynd i’r afael â’r bil budd-daliadau tai sydd wedi dringo i £21 biliwn o dan Lafur.”