Vince Cable
Mae gweinidogion yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth newydd fydd yn ffrwyno’r undebau â’r nod o atal misoedd o streicio a fydd yn dechrau yr wythnos nesaf.
Bydd 750,000 o athrawon, darlithwyr, gweision sifil a gweithwyr eraill yn y sector gyhoeddus yn mynd ar streic ddydd Iau.
Mae undebau wedi bygwth rhagor o weithredu diwydiannol drwy gydol yr haf a’r hydref.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol undeb yr RMT, Bob Crow, ddoe fod yr undebau ar drothwy’r cyfnod hiraf o weithredu diwydiannol ers 80 mlynedd.
Toriadau llym
Ond mae’r Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, yn ystyried cynllun a fyddai yn golygu na fydd swyddogion undebau yn derbyn cyflog llawn amser o’r pwrs cyhoeddus.
Yn ogystal â hynny mae yn ystyried deddfwriaeth fyddai yn golygu bod rhai i ryw ganran o aelodau undeb bleidleisio cyn eu bod nhw’n cael mynd ar streic, yn ôl papur newydd y Daily Telegraph.
Daw’r cynlluniau wrth i’r berthynas rhwng undebau a’r llywodraeth chwalu yn sgil toriadau llym mewn gwario cyhoeddus a’r bwriad i ddiwygio pensiynau yn y sector gyhoeddus.
Mae disgwyl i’r Prif Weinidog, David Cameron, wneud araith cyn bo hir er mwyn amddiffyn y cynlluniau fyddai yn gorfodi gweithwyr yn y sector gyhoeddus i weithio yn hirach a thalu rhagor i mewn i’w pensiynau.
Bydd yn ymyrryd ar ôl i Vince Cable rybuddio’r undebau y byddai yn rhaid i’r llywodraeth weithredu pe baen nhw’n bwrw ymlaen â streiciau.
Ddechrau’r mis dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes wrth gynhadledd flynyddol undeb y GMB y byddai yna bwysau arno i newid y gyfraith ar streicio pe bai gweithredu diwydiannol yn bygwth yr adferiad economaidd.
Roedd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander, hefyd wedi cythruddo’r undebau’r wythnos diwethaf drwy rybuddio y byddai yn “gamgymeriad mawr” gwrthod cynnig y llywodraeth ar bensiynau.