Mae gwyddonwyr wedi darganfod “math newydd hynod wenwynig” o E.Coli sydd eisoes wedi heintio 1,600 o bobol ledled y byd.

Mae saith o bobol eisoes wedi eu heintio ym Mhrydain. Mae tri o’r rheini yn Brydeinwyr a pedwar yn dod o’r Almaen.

Cafodd pob un ei haentio yn yr Almaen, lle yr ymddangosodd yr E.Coli yn y lle cyntaf.

Mae 16 o bobol eisoes wedi eu lladd gan y rhywogaeth newydd sydd wedi lledu i 10 o wledydd y byd. Fe fu farw 15 o’r rheini yn yr Almaen, ac un yn Sweden.

Mewn datganiad dywedodd Sefydliad Genomics Beijing, sydd wedi bod yn astudio’r rhywogaeth newydd, ei fod yn cynnwys sawl genyn sy’n gallu gwrthsefyll meddyginiaeth gwrthfiotig.

Mae’r bacteriwm  “o fath newydd – sydd erioed wedi bod yn rhan  o unrhyw ymlediad E.coli arall”.

Dywedodd Hilde Kruse, arbenigwr ar lendid bwyd o Sefydliad Iechyd y Byd, bod y math newydd o E.Coli yn “hollol unigryw” ac “erioed wedi ei ddarganfod mewn cleifion o’r blaen”.

“Mae ganddo sawl nodwedd sy’n ei wneud yn fwy ffyrnig a gwenwynig,” meddai.