Llosgfynydd
Mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Philip Hammond, wedi dweud y bydd rhaid i Brydain “ddysgu byw” gyda’r lludw sydd ar ei ffordd i lawr o gyfeiriad Gwlad yr Iâ.

Mae disgwyl y bydd rhaid canslo teithio awyrennau ar draws Prydain dros yr oriau nesaf wrth i’r cwmwl llwch orchuddio’r ynysoedd.

Mae hyd yn oed yr Arlywydd Barack Obama wedi gorfod gadael Gweriniaeth Iwerddon diwrnod yn gynnar er mwyn teithio i Lundain, rhag ofn iddo gael ei ddal gan y llwch.

Mae proffwydi’r tywydd yn disgwyl y bydd y llwch o losgfynydd Grimsvotn Gwlad yr Iâ yn cyrraedd yr Alban a Gogledd Iwerddon ben bore, ac yn gorchuddio gweddill y wlad erbyn hanner dydd.

“Rydw i ar ddeall ein bod ni wedi mynd drwy gyfnod anghyffredin o ddistaw o ran ffrwydradau folcanig yng Ngwlad yr Iâ ac rydyn ni bellach yn byw mewn cyfnod lle y bydd yna ragor o lawer o withgaredd,” meddai’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Philip Hammond.

“Mae hyn yn amlwg yn rhywbeth y bydd rhaid i ni ddechrau cynllunio o’i gwmpas. Mae’n rhaid i ni ddysgu byw gyda hyn.”

Ond mynnodd fod gan y wlad system well er mwyn “lleihau’r effaith” ar deithiau awyrennau.

Ers ffrwydrad Eyjafjallajokull y llynedd mae’r awdurdodau wedi dod i ddeall bygythiad cymylau lludw yn llawer gwell, meddai.

Mae cwmni British Airways eisoes wedi dweud nad ydyn nhw’n bwriadu hedfan o Lundain i’r Alban cyn 2pm heddiw.

Mae cwmni KLM wedi canslo 16 taith i mewn ac allan o Glasgow, Caeredin, Aberdeen a Newcastle. Mae EasyJet wedi canslo teithiau i ac o Gaeredin, Glasgow, Inverness ac Aberdeen rhwng 5 a 9am.

Dywedodd Aer Lingus eu bod nhw wedi canslo 12 taith i mewn ac allan o Glasgow, Dulyn, Aberdeen, Caeredin, Shannon a Cork.