Y Tywysog William a Kate Middleton - dim achos dathlu yn ôl undeb yr RMT
Mae prif undeb gweithwyr rheilffyrdd Prydain wedi penderfynu na fydd yn cymryd diwrnod o wyliau i ddathlu’r briodas frenhinol ddydd Gwener – oherwydd ei bolisi o ddiddymu’r frenhiniaeth.

Fe fydd prif swyddfa undeb yr RMT yn Llundain yn agored fel arfer ddydd Gwener, er bod y Prif Weinidog wedi cyhoeddi y dylai’r diwrnod fod yn wyliau cyhoeddus.

Meddai llefarydd ar ran yr undeb:

“Mae gan yr RMT bolisi cenedlaethol clir sy’n cefnogi diddymu’r frenhiniaeth, ac felly, ar ddiwrnod y briodas frenhinol, fe fydd ein prif swyddfa’n agored fel arfer.

“Does dim gorfodaeth ar staff i weithio a gall y rhai a fydd yn gweithio gymryd diwrnod ychwanegol o wyliau ar adeg o’u dewis.”