Mae’r mudiad terfysgol sy’n galw ei hun y Real IRA wedi bygwth ‘dienyddio’ plismyn yng Ngogledd Iwerddon ac wedi condemnio’r cynlluniau ar gyfer ymweliad cynta’r Frenhines â’r Weriniaeth.

Cafodd datganiad gan y grŵp – carfan o weriniaethwyr eithafol sy’n gwrthwynebu’r broses heddwch – ei ddarllen gan ddyn â mwgwd ar ei wyneb mewn mynwent yn ninas Derry ddoe i goffáu gwrthryfel Pasg 1916.

Daw’r rhybudd ar ôl i’r Cwnstabl Ronan Kerr, 25 oed, gael ei ladd mewn bom o dan ei gar yn Omagh, Swydd Tyrone.

Dywedodd y Real IRA y byddai plismyn yn cael eu targedu “waeth beth fo’u crefydd, eu cefndir diwylliannol, na’u cymhellion”. Gŵr Catholig oedd y Cwnstabl Kerr.

Wrth gyfeirio at ymweliad y Frenhines â Gweriniaeth Iwerddon, ychwanega’r datganiad:

“Mae “Oglaigh na hEireann (yr IRA) yn bwyso ar holl ddynion a merched Iwerddon i wrthsefyll sarhad ymweliad brenhines Brydeinig ar bridd Iwerddon; nid yw gwahoddiad gwarthus llywodraeth y wladwriaeth rydd ar ran pobl Iwerddon, ond i hyrwyddo buddiannau hunanol elît sy’n edrych ar ôl eu buddiannau eu hunain.

“Mae Brenhines Lloegr yn gyfrifol am droseddau rhyfel yn Iwerddon.”

Cafodd y grŵp eu condemnio gan Mark Durkan, AS Foyle, a chyn-arweinyddd yr SDLP:

“Does dim angen dweud bod y grŵp yma’n gwbl ddiegwyddor a thruenus pan maen nhw’n cael eu gyrru i ymosod a bygwth cenedlaetholwyr sydd eisiau gwasanaethu eu cymuned a’u gwlad fel plismyn. Mae eu datganiad yn siarad drosto’i hun.”