Banc Lloegr
Mae’n annhebygol y bydd Banc Lloegr yn codi’r gyfradd llog yn y dyfodol agos ar ôl i chwyddiant syrthio yn annisgwyl fis diwethaf.
Mae ffigyrau swyddogol yn dangos bod chwyddiant wedi syrthio o 4.4% ym mis Chwefror i 4% ym mis Mawrth.
Er bod hynny ddwywaith cymaint â tharged y llywodraeth, sef 2%, roedd arbenigwyr y Ddinas wedi disgwyl i chwyddiant aros ar 4.4%
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol cwymp mewn prisiau bwyd oedd yn bennaf gyfrifol.
Syrthiodd prisiau bwyd 1.4% – y cwymp mwyaf o fis i fis ers mis Gorffennaf 2007 – wrth i archfarchnadoedd dorri prisiau er mwyn ceisio denu cwsmeriaid.
Mae Pwyllgor Ariannol Banc Lloegr wedi bod dan bwysau i godi’r gyfradd llog o 0.5% er mwyn mynd i’r afael â chwyddiant.
Ymateb
Dywedodd Vicky Redwood, economegydd cwmni ymgynghorol Capital Economics, fod y ffigyrau yn “galonogol”.
“Serch hynny mae’n bosib mai seibiant dros dro yw hwn ac fe allai cynnydd mewn prisiau tanwydd wthio chwyddiant yn uwch dros y misoedd nesaf,” meddai.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, bod angen clodfori Banc Lloegr am beidio ag ymateb i’r pwysau oedd arnyn nhw i godi’r cyfraddau llog.
“Maen nhw’n haeddu canmoliaeth am hynny,” meddai. “Maen nhw’n edrych at y dyfodol, ac wedi cadw cyfraddau llog yn isel, sef beth sydd ei angen ar yr economi.”