Alex Salmond
Mae’r pôl piniwn diweddaraf yn yr Alban yn awgrymu bod y bwlch rhwng y Blaid Lafur a’r SNP wedi culhau i bwynt yn unig.
Roedd pôl piniwn fis diwethaf yn awgrymu fod y Blaid Lafur 15 pwynt ar y blaen i’r blaid sydd mewn llywodraeth ar hyn o bryd.
Mae’r pôl piniwn diweddaraf gan TNS-BRMB yn awgrymu fod barn wedi dechrau symud yn ôl i gyfeiriad plaid yr SNP yn y wlad.
Mae’r Blaid Lafur ar 38% (-6) a’r SNP ar 37% (+8) ar y bleidlais fesul etholaeth. Mae’r Ceidwadwyr ar 15% (+3) a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 7% (-4).
Ar bleidlais y rhestr ranbarthol mae Llafur ar 35% (-4), a’r SNP hefyd ar 35% (+6), tra bod y Ceidwadwyr at 14% (+3) a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 8% (-2).
Fe fydd arweinwyr y prif bleidiau yn cymryd rhan mewn dadl ar y teledu heno, a bydd Alex Salmond yn gobeithio cau’r bwlch ymhellach ar arweinydd y Blaid Lafur, Iain Gray.
Mae’r Blaid Werdd yn anhapus nad ydyn nhw wedi eu cynnwys yn y ddadl er bod ganddyn nhw gynrychiolwyr yn Senedd yr Alban.