Theresa May (Llun: Hannay McKay/PA Wire)
Mae Prif Weinidog Prydain, wedi cael ei P45 gan ddigrifwr yn ystod Cynhadledd y Blaid Geidwadol ym Manceinion.

Aeth Lee Nelson – neu Simon Brodkin a rhoi iddo ei enw iawn – o’r gynulleidfa i’r llwyfan i roi darn o bapur iddi yn ystod ei haraith.

Cafodd ei dywys o’r llwyfan gan swyddogion diogelwch, cyn i Theresa May ymateb yn ffraeth trwy ddweud, “Ro’n i ar fin siarad am rywun yr hoffwn i roi ei P45 iddo, sef Jeremy Corbyn”.  

Ymddiheuriad

Yn ystod ei haraith, ymddiheurodd Theresa May am berfformiad y Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol brys ym mis Mehefin.

Dywedodd fod yr ymgyrch “wedi’i sgriptio’n ormodol ac yn rhy arlywyddol”, a’i bod hi’n cymryd cyfrifoldeb am hynny.

Collodd y Ceidwadwyr 13 sedd yn yr etholiad, gan golli eu mwyafrif yn San Steffan, oedd wedi arwain at gytundeb dadleuol gyda phlaid Wyddelig y DUP.

Dywedodd Theresa May fod y blaid wedi galluogi Llafur i’w darlunio fel plaid oedd yn cynnig “parhad pan oedd y cyhoedd am glywed neges o newid”.

“Rwy’n cymryd cyfrifoldeb,” meddai. “Fi arweiniodd yr ymgyrch. Ac mae’n ddrwg gen i.”