Loriau di-yrrwr yn yr Unol Daleithiau (Dllu CCA 4.0 Rhyngwladol)
Fe fydd confois o loriau di-yrrwr yn cael eu treialu ar draffyrdd Prydain flwyddyn nesaf, yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Bydd hyd at dair lori sydd wedi eu cysylltu gyda thechnoleg ddiwifr yn teithio mewn rhes gyda’r cerbyd blaen yn rheoli’r gweddill. Y gred yw bod gyrru mewn rhes yn arbed tanwydd.

Fe fydd gyrrwr ar bob un o’r lorïau gyda’r gallu i gymryd y llyw os bydd angen.

“Gwella bywydau pobol”

Y Labordy Ymchwil Trafnidiaeth fydd yn cynnal y treialon, ac mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig  yn cyfrannu £8.1 miliwn ar gyfer y prosiect.

“R’yn ni’n buddsoddi mewn technoleg fydd yn gwella bywydau pobol,” meddai’r Gweinidog Trafnidiaeth, Paul Maynard.

“Gall busnesau a gyrwyr elwa oherwydd biliau tanwydd is oherwydd datblygiadau tebyg i hwn. Ond, yn gyntaf rhaid sicrhau bod y dechnoleg yn ddiogel, dyna pam rydym yn buddsoddi yn yr arbrofion.”

Ansicrwydd

Mae teithiau arbrawf tebyg eisoes wedi cael eu cynnal yng ngweddill Ewrop a’r Unol Daleithiau, ond mae arbenigwyr wedi codi amheuon a fydd y prosiect yn llwyddo yng ngwledydd Prydain.

“Rydyn ni gyd eisiau hyrwyddo defnydd effeithlon o danwydd ond dydyn ni ddim yn siŵr mai confois loriau ar briffyrdd y Deyrnas Unedig yw’r ateb,” meddai Llywydd Cymdeithas y Ceir Modur (AA), Edmund King.

“Mae rhai o briffyrdd prysura’ Ewrop ym Mhrydain. Efallai bod confois yn gweithio ar filltiroedd o briffyrdd gwag yn Arizona a Nevada – ond nid America ydyn ni.”

Roedd tystiolaeth yn dangos bod llawer o bobol yng Nghymru eisoes yn osgoi traffyrdd, meddai, ac ateb gwell fyddai addasu’r lorïau i ddefnyddio trydan.