Theresa May Llun: Dominic Lipinski/PA Wire
Mae Theresa May wedi annog gweinidogion i ddangos “undod” o fewn y Cabinet wrth iddi ddweud wrthyn nhw am beidio trafod cynnwys eu cyfarfodydd.
Yn dilyn cyfres o sylwadau oedd yn targedu’r Canghellor Philip Hammond, dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet bod rhai aelodau’r Llywodraeth wedi methu a chymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif.
Yn ystod y cyfarfod wythnosol yn Rhif 10 Downing Street, dywedodd ei bod yn ceisio annog trafodaeth agored o bolisi o fewn y Cabinet, ond ei bod yn hanfodol i’r Llywodraeth bod cynnwys y cyfarfodydd hynny’n aros yn breifat, meddai ei llefarydd swyddogol wrth newyddiadurwyr.
“Mae angen dangos cryfder ac undod fel gwlad ac mae hynny’n dechrau o gwmpas bwrdd y Cabinet,” meddai Theresa May.