Y Synod (Llun: PA)
Mae Eglwys Loegr yn pleidleisio yng Nghaerefrog heddiw i benderfynu a fyddan nhw’n darparu gwasanaethau arbennig i bobol drawsryweddol.
Mae’r cynnig sydd wedi cael ei gyflwyno gan y Parchedig Chris Newlands o Blackburn yn dweud y dylid eu “croesawu” i’r Eglwys wrth iddyn nhw fynd drwy “broses hir a chymhleth”.
Ar hyn o bryd, mae Eglwys Loegr yn dweud mai unwaith yn unig y mae modd bedyddio rhywun ac felly, nad oes modd eu bedyddio o’r newydd os ydyn nhw’n newid eu rhyw.
Y cynnig
Ond mae’r cynnig yn galw ar yr Eglwys i ystyried rhoi cymorth a derbyn pobol drawsryweddol.
Ond mae’n cydnabod nad oes modd gorfodi’r Eglwys i gynnal gwasanaeth bedyddio os nad ydyn nhw’n derbyn y sefyllfa.
Mewn sefyllfa lle nad oes cefnogaeth, y gobaith yw y bydd yr Eglwys yn cyfeirio unigolion at rywun sy’n gallu eu cefnogi.
Mae hefyd yn galw ar yr Eglwys i gynhyrchu deunydd er mwyn cefnogi pobol drawsryweddol.
Therapi ‘anfoesol’
Mae esgobion eisoes wedi cefnogi cynnig yn galw am wahardd therapi “anfoesol” i wyrdroi rhywioldeb Cristnogion hoyw.
Clywodd y Synod ddoe nad yw bod yn hoyw yn salwch nac yn bechod, ac fe ddaw’r bleidlais wrth i ddathliadau Pride gael eu cynnal yn Llundain dros y penwythnos, hanner can mlynedd ers cyfreithloni gwrywgydiaeth.