Rhybudd gan Syr Michael Fallon i Theresa May (Llun: PA)
Mae gweinidogion Llywodraeth Prydain wedi rhybuddio’r Prif Weinidog Theresa May fod rhaid iddi ymgynghori ag aelodau ei Chabinet a’r meinciau cefn ar ôl etholiad cyffredinol siomedig i’r Ceidwadwyr.

Dyna neges yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Syr Michael Fallon wrth iddo ddweud bod rhaid i Theresa May gydweithio’n agosach gyda’i phlaid ar ôl colli ei mwyafrif.

Ac mae Syr Michael Fallon wedi croesawu ymddiswyddiadau dau aelod o staff y Prif Weinidog, Nick Timothy a Fiona Hill, sy’n cael y bai gan rai am berfformiad y blaid yn yr etholiad cyffredinol.

Dywedodd wrth raglen Andrew Marr y BBC fod angen “agwedd gwahanol at lywodraeth leiafrifol”.

“Ry’n ni’n mynd i weld, dw i’n gobeithio, mwy o benderfyniadau ar y cyd yn y cabinet. Dw i a chydweithwyr mwy profiadol eraill wedi egluro hynny wrthi.”

Ond fe wfftiodd yr awgrym y byddai canlyniad yr etholiad yn cael unrhyw effaith ar drafodaethau Brexit dros y misoedd nesaf.

Cydweithio â Llafur?

Dydy Syr Michael Fallon ddim wedi wfftio’r posibilrwydd o gydweithio mwy â’r Blaid Lafur ar fater Brexit yn sgil diffyg mwyafrif.

Dywedodd ei fod yn “croesawu” y ffaith nad yw’r Blaid Lafur bellach yn galw am ail refferendwm.

“Maen nhw, fel ni, dw i’n gobeithio, eisiau cael Brexit llwyddiannus, cytundeb sy’n gweithio i ni, sy’n gweithio i’r Undeb Ewropeaidd, nad yw’n peryglu swyddi a masnachu gydag Ewrop, ond sydd yn dal yn cynrychioli canlyniad y refferendwm y llynedd.”