Mae corff dyn o Ffrainc wedi cael ei ddarganfod yn afon Tafwys yn dilyn yr ymosodiadau brawychol yn Llundain y penwythnos diwethaf.

Mae’n golygu bod nifer y meirw wedi cynyddu i wyth.

Mae lle i gredu bod Xavier Thomas, 45, wedi cael ei daro gan fan y brawychwyr ar bont San Steffan, a’i fod e wedi cael ei fwrw i’r dŵr.

Cafwyd hyd i’w gorff ger pont Llundain am oddeutu 7.45yh nos Fawrth. Dyw ei gorff ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, ond mae ei deulu wedi cael gwybod.

Roedd e a’i bartner Christine Delcros wedi bod yn ymweld â’r ddinas am y penwythnos, ac roedden nhw’n croesi’r bont pan ddigwyddodd y cyfres o ymosodiadau.

Cafodd Christine Delcros ei hanafu’n ddifrifol yn y digwyddiad, ond mae hi mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty erbyn hyn.

Y meirw

Fe fu farw saith o bobol eraill yn yr ymosodiadau ar bont Llundain a Borough Market, ac mae pedwar ohonyn nhw wedi’u henwi eisoes:

James McMullan, 32, o Hackney;

Christine Archibald, 30, o Ganada;

Kirsty Boden, 28, o Awstralia;

Alexandre Pigeard, 27.

Yr ymchwiliad

Yn dilyn yr ymosodiadau, mae’r awdurdodau wedi cael eu beirniadu am y ffordd maen nhw’n ymdrin â’r ymchwiliad.

Roedd un o’r brawychwyr, Youssef Zaghba ar restr o bobol oedd yn peryglu diogelwch gwledydd Prydain, ond fe gafodd e ganiatâd i ddod serch hynny.

Mae lle i gredu ei fod e wedi dweud wrth heddlu’r Eidal ei fod e am fod yn frawychwr wrth iddyn nhw ei atal e rhag teithio i Syria.

Ond doedd dim digon o dystiolaeth i ddwyn achos yn ei erbyn ar y pryd, ac fe fu’n byw yn nwyrain Llundain yn ddiweddar.

Roedd yr awdurdodau hefyd yn gwybod am Khuram Shazad Butt, 27, a Rachid Redouane, 30. Cafodd wyth o bobol eu lladd gan y tri, a 48 eu hanafu.