Sigarets (Llun: PA)
Mae Cymdeithas y Cynhyrchwyr Tybaco wedi rhybuddio y gallai rheolau newydd ar becynnu sigarets orfodi pobol i droi at y farchnad ddu.

Daw rheolau newydd i rym heddiw sy’n gorfodi cwmnïau sigarets i becynnu eu cynnyrch mewn pecynnau plaen.

Mae’r rheolau wedi bod yn cael eu treialu dros y misoedd diwethaf, ac mae cwsmeriaid wedi cael eu holi am eu barn yn ystod y cyfnod hwnnw.

Ymchwil

Yn ôl y gymdeithas, fe fu cynnydd o 14.5% yn nifer yr achosion o brynu sigarets o lefydd anghyfreithlon a thramor yn ystod y pum mis diwethaf.

Roedd nifer y bobol oedd wedi prynu tybaco mewn pecynnau mwy o faint o lefydd anghyfreithlon a thramor bron iawn â dyblu yn yr un cyfnod (91.7%).

Fe fu cynnydd o 31.6% hefyd yn nifer y bobol oedd wedi prynu tybaco ar wefannau cymdeithasol a gwefannau rhad oedd yn hysbysebu tybaco anghyfreithlon.

Roedd cynnydd o 22.1% hefyd yn nifer y bobol oedd wedi prynu tybaco dramor er mwyn osgoi talu’r dreth.

Ymateb

Wrth ymateb i gasgliadau’r arolwg, dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol Cymdeithas y Cynhyrchwyr Tybaco, Giles Roca fod pobol yn dechrau troi at y farchnad ddu oherwydd y rheolau newydd.

“Dydy hi ddim yn syndod bod ein hymchwil yn dangos cynnydd yn y farchnad anghyfreithlon – dyna’n union ddigwyddodd yn Awstralia pan gafodd pecynnau plaen eu cyflwyno yn 2012.

Ychwanegodd fod cyflwyno pecynnau plaen yn costio £2.1 biliwn i’r Trysorlys yn ystod y flwyddyn gyntaf, ac yn arwain at golli 11,190 o swyddi.

Ychwanegodd hefyd nad yw pecynnau plaen yn debygol o atal pobol ifanc rhag dechrau ysmygu, sef y prif reswm pam fod pecynnau plaen yn cael eu cyflwyno yng ngwledydd Prydain.

Galwodd ar Lywodraeth Prydain i adolygu’r holl fesurau Ewropeaidd sydd wedi arwain at y gwaharddiad ar becynnau traddodiadol.