Theresa May (Llun: PA)
Fe fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwrthod cais gan Lywodraeth yr Alban i gynnal ail refferendwm annibyniaeth.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Alban, David Mundell, na fyddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cynnal “trafodaethau” pe bai cais ar y bwrdd.

Daw’r sylw wedi i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, ddatgan brynhawn heddiw mai “nid nawr yw’r amser” i gynnal pleidlais arall.

Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, wedi dweud ei bod am gynnal refferendwm newydd ar annibyniaeth i’r Alban cyn bod proses y Deyrnas Unedig i dynnu allan o Ewrop yn dod i ben.

Mae hefyd wedi dweud nad yw hi am weld refferendwm yn cael ei chynnal yn awr ond bod yn rhaid ei chynnal “cyn ei bod hi’n rhy hwyr i ni ddewis llwybr arall.”

Bydd cefnogaeth gan Blaid Werdd yr Alban yn sicrhau bod Llywodraeth yr Alban yn ennill mwyafrif yn Senedd yr Alban wythnos nesaf,  er mwyn danfon cais am orchymyn Adran 30 – deddfwriaeth sy’n hanfodol er mwyn cynnal pleidlais gyfreithiol.