Yr Arglwydd Hague
Mae cyn-arweinydd y Ceidwadwyr, yr Arglwydd Hague, wedi annog Theresa May i gynnal etholiad cyffredinol cynnar er mwyn osgoi rhagor o wrthdaro ynglŷn â Brexit.

Wrth i’r Prif Weinidog baratoi i gael ei threchu yn Nhŷ’r Arglwyddi, gyda nifer o arglwyddi yn galw am bleidlais yn y Senedd ynglŷn â chytundeb terfynol Brexit, dywed yr Arglwydd Hague y gallai leihau’r risg o hynny petai hi’n ennill etholiad.

Yn ôl William Hague does “dim dwywaith” y byddai gan Theresa May well siawns o wneud Brexit yn llwyddiant gyda mwyafrif clir yn Nhŷ’r Cyffredin.

Ond mae Downing Street wedi gwrthod y galwadau gan ddweud nad yw’n rhywbeth mae Theresa May yn bwriadu ei wneud.