Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi “ymrwymo i wella” yn dilyn adroddiad beirniadol am y gwasanaethau plant maen nhw’n ei gynnig yn y sir.

Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn galw arnyn nhw i lunio cynllun gweithredu, gwella ansawdd yr ymarfer ynghyd â gwella gwaith amlasiantaethol a gwasanaethau ataliol yr awdurdod lleol.

Cafodd yr arolygiad ei gynnal ym mis Tachwedd 2016 mewn “cyfnod o newid sylweddol” i Gyngor Môn wrth iddyn nhw weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

‘Sylw annigonol’

Mae’r adroddiad wedi canmol rhai agweddau o’r gwasanaeth, ond maen nhw’n nodi fod “sylw annigonol” wedi’i roi i wella arferion mewn gwasanaethau plant yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

“Er bod gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau cymorth a threfniadau atal wedi’u datblygu’n annigonol, roedd yr awdurdod lleol yn ymatebol lle’r oedd arwyddion brys bod plentyn mewn perygl. Roedd y wybodaeth atgyfeirio a gafwyd oddi wrth bartneriaid yn wael,” meddai’r adroddiad.

Mae’r Arolygiaeth yn galw ar y cyngor i lunio cynllun gwella o fewn 20 diwrnod a byddan nhw’n eu monitro drwy gydol 2017/18 gyda’r posibilrwydd o ail adolygiad o fewn blwyddyn neu ddeunaw mis.

Ymrwymo i wella

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cadarnhau y byddan nhw’n cydweithio’n llawn i geisio gwella’r gwasanaeth gan ddweud eu bod eisoes wedi paratoi Cynllun Gwella Gwasanaeth.

“Mae pob un aelod o staff Gwasanaethau Plant Ynys Môn yn ymrwymedig i wella bywydau’r plant a’r teuluoedd y maent yn gweithio â nhw,” meddai Caroline Turner, Prif Weithredwr Cynorthwyol Cyngor Sir Ynys Môn a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

“Rydym wedi cymryd camau positif i ymateb i ganfyddiadau allweddol yr adroddiad hwn, yn cynnwys buddsoddiad ychwanegol, a bydd ein Cynllun Gwella Gwasanaeth newydd yn cael effaith yn ystod y misoedd nesaf hefyd,” ychwanegodd y cynghorydd Aled Morris Jones.