Mae tri o bobol mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad yn ne-ddwyrain Lludain.
Tarodd car Mercedes i mewn iddyn nhw yn Bellingham fore Sul.
Mae’r gyrrwr wedi cael ei arestio ar amheuaeth o yfed a gyrru ac o achosi anafiadau difrifol drwy yrru’n beryglus.
Daeth y car oddi ar y ffordd cyn taro polion, wal isel a pherth.