Mae Barclaycard wedi creu pwmp cwrw sy’n tollti peint ar ei ben ei hun, gyda’r cwsmer yn talu drwy sganio’i gardun banc dros beiriant ar y pwmp.

Bwriad @Pump yw lleihau ciwiau wrth y bar ac mae prototeip wedi ei ddyfeisio i gyflymu’r broses o brynu cwrw ar adegau prysur megis y Nadolig.

Mae gofyn i gwsmer ddewis ei ddiod ac yna tapio eu cardun banc digyswllt yn erbyn gwaelod y pwmp, a gosod gwydr oddi tano i gychwyn proses sy’n cymryd rhyw 60 eiliad.

Yn ôl Barclaycard mae ymchwil yn dangos bod 24% o yfwyr wedi ystyried rhoi’r ffidil yn y to pan yn ciwio wrth y bar, oherwydd bod yr holl beth wedi mynd yn ormod o ffaff.

Mae Barclaycard hefyd yn honni bod eu hymchwil yn dangos bod 28% o gwsmeriaid eisiau pwmp hunan-wasanaeth ym mhob tafarn a bar ym Mhrydain.

Yn ôl y Contactless Spending Index, mae taliadau digyswllt wedi cynyddu 112% yn y flwyddyn aeth heibio.

Ond bydd rhai yn ofni y gallai’r pwmp hunan-wasanaeth beryglu swydd y barberson traddodiadol.