Mae Cyngres y TUC wedi dweud y gallai rhoi’r hawl i weithwyr fod yn gyfarwyddwyr cwmnïau ddod yn rhan o gyfraith Prydain o fewn blwyddyn gyda chefnogaeth Llywodraeth Prydain.

Mae’r TUC yn galw am gyflwyno’r cynllun i gwmnïau sydd â gweithlu o fwy na 250 o bobol.

Mewn adroddiad, maen nhw’n dweud y gallai traean o gyfarwyddwyr fod yn gynrychiolwyr gweithwyr a fyddai’n cael eu hethol gan weithwyr.

Dyma’r drefn sy’n bodoli o fewn 12 o wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r TUC yn dadlau nad yw’r drefn bresennol o ddibynnu ar gyfran-ddeiliaid i ddwyn cwmnïau i gyfri wedi llwyddo’n economaidd na chwaith o safbwynt cyfiawnder cymdeithasol.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol y TUC, Frances O’Grady: “Os yw’r ewyllys yno’n wleidyddol, yna gallai’r polisi hwn ddod yn statud o fewn blwyddyn.

“Mae’r profiad Ewropeaidd yn dangos nad yw gwella cynrychiolaeth gweithwyr yn rhywbeth i gwmnïau’r DU ei ofni. Mae’n helpu i wella perfformiad cwmni.”

Ychwanegodd fod y cynllun yn “synnwyr cyffredin”.