Fe fydd cyn-Archesgob Caergaint, Dr Rowan Williams, a 200 o arweinwyr crefyddol eraill yn galw heddiw ar Brif Weinidog Prydain i wneud mwy i gynorthwyo ffoaduriaid o Syria a gwledydd rhyfelgar eraill.
Yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd Llywodraeth Prydain ei bod wedi penderfynu rhoi lloches i 20,000 o bobol o Syria dros y pedair blynedd nesaf.
Ond mae disgwyl i Dr Rowan Williams ddweud bod yr ymateb hyd yn hyn wedi bod yn “rhy araf, rhy isel a rhy gul”.
‘Gobaith’ am y cadoediad
Yn y cyfamser mae Syria’n paratoi at gadoediad 10 diwrnod a fydd yn dod i rym erbyn i’r haul fachlud heno.
Dros y penwythnos fe ddaeth yr Unol Daleithiau a Rwsia i gytundeb ar gadoediad yn y wlad gan son hefyd am y posibilrwydd o bartneriaeth filwrol newydd er mwyn mynd i’r afael â bygythiad y Wladwriaeth Islamaidd (IS) ac al Qaida.
Mae Pennaeth y Pwyllgor Achub Rhyngwladol, David Miliband, wedi datgan gobaith am y cadoediad newydd yn Syria. Ond rhybuddiodd bod dylanwad arlywydd y wlad, Bashar Assad, yn hanfodol i unrhyw gytundeb hirdymor fydd yn datblygu.
“Mae arwyddion pendant bod hwn yn gyfle gwell nag erioed i dawelu rhywfaint o’r ymladd am gyfnod byrdymor.”