Llun: PA
Mae’r cwmni ffôn BT wedi lansio ymgyrch i ddod o hyd i lais newydd ar gyfer gwasanaeth y “speaking clock”.

Bydd y gystadleuaeth genedlaethol yn cael ei chynnal i nodi 80 mlynedd ers dechrau’r gwasanaeth sy’n derbyn 12 miliwn o alwadau’r flwyddyn.

Yr enillydd fydd y pumed person erioed i gael ei benodi’n llais y cloc sy’n darparu’r amser ar ôl i bobl ddeialu 123.

Mae Sara Mendes da Costa wedi bod yn llais y cloc ers ennill y gystadleuaeth ddiwethaf yn 2007.

Mae lleisiau blaenorol wedi cynnwys actor a goruchwyliwr y gyfnewidfa ffôn yn Llundain.

I ddathlu 80 mlynedd o’r gwasanaeth, mae BT am roi peiriannau’r cloc siarad gwreiddiol o 1936 a 1963 fel rhodd i’r Sefydliad Horolegol Prydeinig (BHI), ble maen nhw wedi bod ar fenthyg am rai blynyddoedd.

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei rhedeg mewn partneriaeth â rhaglen The One Show y BBC. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd.