Athletwyr Tîm GB yn y seremoni cau yn y Gemau Olympaidd yn Rio (Llun: Martin Rickett/PA Wire)
Fe fydd athletwyr Tîm GB yn dychwelyd o Rio de Janeiro i’r DU heddiw yn dilyn eu llwyddiant gorau mewn Gemau Olympaidd ers mwy na chanrif.
Mae disgwyl i’r awyren Boeing 747, a fydd yn cludo 320 o athletwyr a staff cynorthwyol, lanio ym maes awyr Heathrow am 10yb. Fe fyddan nhw’n wynebu cynhadledd i’r wasg yn fuan ar ôl glanio.
Ar ôl ennill 67 o fedalau yn y Gemau yn Rio gan orffen yn ail yn y tabl, mae son y bydd nifer o Dîm GB yn cael eu hanrhydeddu.
Mae llefarydd ar ran y Prif Weinidog Theresa May wedi dweud na fydd nifer yr anrhydeddau a allai gael eu rhoi i athletwyr yn cael ei gyfyngu.
Cipiodd athletwyr o Gymru gyfanswm o ddeg medal yn ystod y Gemau Olympaidd, gyda phedwar ohonynt yn fedalau aur.
Ymhlith yr athletwyr o Gymru a enillodd fedalau aur mae Elinor Baker gyda’r seiclo, Hannah Mills gyda’r hwylio, Jade Jones gyda’r taekwondo ac Owain Doull gyda’r seiclo.
Rhai o sêr eraill y Gemau oedd Jason Kenny a’i ddyweddi Laura Trott yn dilyn eu llwyddiant yn y felodrôm, y nofiwr Adam Peaty, ynghyd a Mo Farah ar y trac, a Nicola Adams gyda’r bocsio.
Mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi y bydd llwyddiant yr athletwyr yn Rio yn cael ei ddathlu gyda gorymdaith ym Manceinion a digwyddiad arall yn Llundain ym mis Hydref.