j
Mae’r ddau ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Lafur wedi dweud y bydd yn rhaid i’r Blaid Lafur ennill cefnogaeth pobol sydd wedi cael eu “temtio i bleidleisio i’r Torïaid” er mwyn ffurfio llywodraeth eto.

Fe gyfaddefodd yr arweinydd presennol, Jeremy Corbyn, fod “gwaith perswadio i’w wneud” i ddenu rhai sydd wedi troi at y Ceidwadwyr ond fe ddywedodd hefyd pa mor bwysig fyddai ennill cefnogaeth pobol ifanc ac adfywio cefnogwyr y blaid er mwyn ennill yr etholiad cyffredinol nesaf.

Aeth ei wrthwynebwr ar gyfer yr arweinyddiaeth, AS Pontypridd Owen Smith, gam yn bellach gan ddweud bod angen i Lafur ennill cefnogaeth dwy filiwn o bobol a bleidleisiodd i’r Torïaid yn etholiad 2015.

Un o naw dadl

Roedd y ddau’n cymryd rhan yn y ddiweddara’ o naw o ddadleuon swyddogol rhwng y ddau ymgeisydd – y pedwaredd dadl, ym Mirmingham.

Cafodd Owen Smith ei wawdio gan rai aelodau o’r gynulleidfa ddoe wrth iddo gyfeirio at y “170 o ASau sosialaidd” sydd â diffyg hyder yn arweinyddiaeth Jeremy Corbyn.

Gofynnodd Jeremy Corbyn am ddadl “gyfeillgar”, gan ychwanegu ei fod yn “siomedig iawn” pan ymddiswyddodd Owen Smith ac eraill o’r cabinet cysgodol yn galw am newid arweinyddiaeth.