Graff yr NSPCC yn dangos y cynnydd mewn troseddau rhywiol yn erbyn plant yng Nghymru
Mae elusen gwarchod plant yn dweud fod cynnydd mawr mewn cam-drin a chreulondeb yn erbyn plant yng Nghymru.

Ac maen nhw’n dweud hefyd bod 150 o achosion wedi bod o geisio denu plant trwy gyfrwng y Rhyngrwyd yn yr un cyfnod, gyda’r ffigwr mwya’ yn ardal Heddlu Dyfed-Powys.

Mae’r NSPCC yn tynnu sylw at adroddiad sy’n dangos cynnydd o 184% tros bum mlynedd yng Nghymru mewn achosion o luniau a chyhoeddiadau ffiaidd sy’n  cynnwys plant.

Roedd troseddau rhywiol a gofnodwyd yn ymwneud â phlant yng Nghymru wedi codi o 48% yn yr un cyfnod, yn ôl adroddiad blynyddol yr elusen ar ddiogelwch plant.

Yn ôl NSPCC Cymru fel ddylai unrhyw riant neu blentyn sy’n poeni am gysylltiadau ar y We ofyn a yw’r perthnasau yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir.