Mae Nicola Sturgeon wedi gwrthod awgrymiadau gan un o’i chyn-weinidogion ei hun y gallai annibyniaeth i’r Alban arwain at greu “ffin caled” rhwng yr Alban a Lloegr.

Dywedodd Prif Weinidog yr Alban nad oes rheswm i unrhyw un awgrymu y byddai ffin felly’n cael ei chreu yn “anochel” yn dilyn Brexit – yn enwedig ar ôl i Brif Weinidog Prydain, Theresa May, awgrymu ei bod am gynnal ffin agored rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon.

Roedd Aelod Seneddol yr Alban yr SNP Alex Neil wedi dweud bod ffin agored rhwng yr Alban annibynnol a gweddill y Deyrnas Unedig “yn debygol o fod yn anodd iawn i’w gyflawni”.

Dywedodd Nicola Sturgeon hefyd bod refferendwm annibyniaeth arall yn “debygol iawn” yn dilyn y bleidlais yn y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Fodd bynnag, mae hi wedi dweud ei bod hefyd yn edrych ar opsiynau i gadw Alban y tu mewn i’r Deyrnas Unedig ac yn yr Undeb Ewropeaidd.

Yr awydd i reoli mewnfudo oedd un o’r prif ddadleuon yr ymgyrch i adael yr Undeb Ewropeaidd ac mae UKIP wedi rhybuddio y gallai ffin yr Alban ddod yn “Calais newydd” os yw polisi mewnfudo mwy rhyddfrydol yn cael ei fabwysiadu gan Lywodraeth yr Alban.