Jeremy Corbyn Llun: PA
Mewn her gyfreithiol yn erbyn y Blaid Lafur, mae’r Uchel Lys wedi clywed bod rheolau’r blaid wedi cael eu “camddefnyddio” yn dilyn y penderfyniad i ychwanegu enw Jeremy Corbyn yn awtomatig yn y bleidlais am yr arweinyddiaeth.

Mae un o gyfranwyr mwya’r blaid, Michael Foster, sydd hefyd yn gyn-ymgeisydd seneddol, wedi dwyn yr achos yn erbyn ysgrifennydd cyffredinol y blaid, Iain McNicol a Jeremy Corbyn ei hun.

Os bydd y barnwr yn pleidleisio o’i blaid, bydd yn rhaid i’r blaid ddechrau’r cam o enwebu ymgeiswyr eto.

Roedd yn rhaid i’r ymgeiswyr eraill gasglu cefnogaeth 20%, neu 51 o Aelodau Seneddol ac Aelodau Senedd Ewropeaidd, cyn gallu cyflwyno eu henwau i herio Corbyn am yr arweinyddiaeth.

Cafodd y penderfyniad ei wneud gan bwyllgor gweithredol cenedlaethol y blaid, a gymrodd gyngor cyfreithiol cyn pleidleisio o 18 i 14, y dylai Jeremy Corbyn gael ei enwi ar y papur pleidleisio yn awtomatig.

Disgwyl arweinydd newydd erbyn mis Medi

Mae disgwyl i’r papurau gael eu hanfon i aelodau ar 22 Awst, gyda’r canlyniad yn cael ei gyhoeddi mewn cynhadledd arbennig yn Lerpwl ar 24 Medi.

Ar ôl i gyn-ysgrifennydd gwladol yr wrthblaid, Angela Eagle, dynnu ei henw o’r ras, Aelod Seneddol Pontypridd, Owen Smith, yw’r unig ymgeisydd fydd yn mynd benben â Jeremy Corbyn.

Doedd Corbyn, a ddaeth yn arweinydd ym mis Medi llynedd, ddim yn y llys ar gyfer y gwrandawiad.