Banc Lloegr Llun: PA
Mae disgwyl i Fanc Lloegr roi hwb i’r economi yn sgil pleidlais Brexit heddiw drwy dorri cyfraddau llog am y tro cyntaf mewn mwy na saith mlynedd.

Mae llywodraethwr y banc Mark Carney eisoes wedi awgrymu y byddai’r banc yn pleidleisio i gwtogi cyfraddau ym mis Gorffennaf neu Awst ar ôl y bleidlais i adael yr UE.

Dywedodd economegwyr yn Hargreaves Lansdown ei bod hi nawr yn “debygol” y bydd y cyfraddau yn cael eu torri o 0.5% i 0.25% heddiw.

Gall y cyfraddau llog ostwng ymhellach i 0% ym mis Awst tra bod disgwyl i Fanc Lloegr roi mwy  o arian i mewn i’r economi i hybu twf yn dilyn y cyfnod anodd ers Brexit.

Y tro diwethaf i gyfraddau llog newid oedd ym mis Mawrth 2009, pan gafodd y cyfraddau eu torri i’r lefel isaf erioed o 0.5% ar anterth yr argyfwng ariannol.

Byddai gostyngiad yn y gyfradd llog yn newyddion da i fenthycwyr, ond byddai’n waeth byth i rai sy’n ceisio cynilo.