Theresa May (Llun o'i gwefan)
Theresa May yw’r ceffyl blaen yn y ras i arwain y Ceidwadwyr ac olynu David Cameron fel Prif Weinidog ar ôl sicrhau pleidleisiau hanner yr Aelodau Seneddol Ceidwadol yn y rownd gyntaf.

Cafodd yr Ysgrifennydd Cartref  165 o bleidleisiau ac mae hefyd wedi cael cefnogaeth yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Stephen Crabb ar ôl iddo benderfynu tynnu ei enw yn ôl ar ôl gorffen yn bedwerydd gyda 34 o bleidleisiau.

Dywedodd AS Preseli a Phenfro mai “dim ond un ymgeisydd” all uno’r Ceidwadwyr a ffurfio llywodraeth “gref ac unedig.”

Mae Dr Liam Fox hefyd wedi gadael y ras ar ôl cael cefnogaeth 16 o ASau yn unig. Mae e hefyd wedi dweud y bydd yn cefnogi Theresa May gan ddweud bod “profiad yn bwysig.”

Daeth Andrea Leadsom yn ail gyda 66 o bleidleisiau a Michael Gove yn drydydd gyda 48. Mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder wedi mynnu y bydd yn parhau yn y ras gan bwysleisio bod angen Prif Weinidog oedd wedi ymgyrchu dros adael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe fydd pleidlais arall yn cael ei chynnal ddydd Iau a dydd Mawrth.

Bydd hyn yn gadael dau ymgeisydd ar ôl i gael eu dewis gan tua 150,000 o aelodau’r Blaid Geidwadol erbyn 9 Medi.

Fe gyhoeddodd David Cameron ei fod yn ymddiswyddo yn dilyn canlyniad y refferendwm ar ddyfodol Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd.