Michael Gove
Mae pwysau ar Michael Gove i dynnu allan o’r ras i fod yn Brif Weinidog nesaf gwledydd Prydain.

Fe roddodd Gove y farwol i obeithion Boris Johnson o olynu David Cameron ddoe, gan ddweud nad oedd cyn-Faer Llundain yn gallu rhoi’r arweiniad sydd ei angen yn dilyn Brexit.

Wrth gyhoeddi ei fwriad i sefyll yn y ras i arwain y Ceidwadwyr, fe ddywedodd Michael Gove y dylai Boris Johnson gamu o’r neilltu.

Ond nawr mae cyn-Ganghellor Torïaidd sy’n un o hen bennau’r blaid wedi dweud nad oes modd i Michael Gove arwain ychwaith.

Yn siarad ar Radio 4 y BBC, dywedodd Ken Clark: “Dw i’n credu y dylai Michael Gove wneud ffafr gyda phawb trwy gamu lawr er mwyn cyflymu’r broses.

“Un o flaenoriaethau cyntaf arweinydd y blaid, ac yn sicr fel Prif Weinidog, yw sicrhau cyn gymaint â phosib o ymddiriedaeth eich cydweithwyr.

“Nid yw’n argoeli’n dda ei fod wedi sefyll ochr yn ochr gyda Boris gydol yr ymgyrch fel ei gadfridog. Yr oedd yn cael ei gydnabod yn gyhoeddus fel ei reolwr.”