Phlip Hammond (o'i wefan)
Fe fydd Prif Weinidog Prydain, David Cameron, yn aros yn ei swydd, meddai un o’i brif gydweithwyr.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Tramor, Philip Hammond, fe fydd ganddo waith i weithredu barn y bobol ac i geisio cael y trefniant gorau posib i wledydd Prydain.

Y cam cynta’, meddai , fydd tawelu’r marchnadoedd siariau ac arian, sydd eisoes wedi cwympo wrth glywed y newydd.

Y dadlau tros Cameron

Mae’r dadlau eisoes wedi dechrau am ddyfodol David Cameron gyda’r farn wedi rhannu rhwng ymddiswyddo neu aros.

Mae arweinydd UKIP, Nigel Farage, er enghraifft, wedi galw am gael Prif Weinidog “Brexit” i gynnal y trafodaethau a chyn Ysgrifennydd Cymru, David Jones, wedi awgrymu y dylai fynd.

Ar y llaw arall, mae’r cyn Ysgrifennydd Amddiffyn ac ymgyrchydd amlwg tros Brexit, Liam Fox, wedi dweud y dylai aros ac oedi cyn dechrau’r broses adael.

Yn ôl ymgyrchwyr Aros, does gan arweinwyr Brexit ddim cynllun ac maen nhw eisiau i David Cameron ddatrys “y llanast” ar e u rhan.