Boris Johnson (Llun parth cyhoeddus)
Mae David Cameron a Boris Johnson wedi gwrthdaro a’i gilydd ynglŷn â rôl yr Undeb Ewropeaidd (UE) i sicrhau heddwch yn Ewrop.

Roedd y Prif Weinidog wedi dadlau y byddai pleidlais dros adael yr UE yn peri risg i sefydlogrwydd y cyfandir, a bod yr Undeb wedi chwarae rôl allweddol yn y frwydr yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd (IS) ac wedi llwyddo i ddod a heddwch i wledydd oedd yn gwrthdaro.

Nato

Ond yn ôl cyn-Faer Llundain Boris Johnson, Nato sydd wedi bod yn gyfrifol am amddiffyn heddwch yn Ewrop ers yr Ail Ryfel Byd ac aeth ymlaen i ddweud bod yr Undeb Ewropeaidd wedi creu “ansefydlogrwydd” ac yn “annemocrataidd”.

Tra bod Nato yn parhau yn allweddol, meddai David Cameron, “barn uwch-swyddogion milwrol” yw bod yr UE yn “hanfodol” i gefnogi’r sefydliad.

Mae bygythiadau o gyfeiriad Rwsia ac IS a’r argyfwng ffoaduriaid yn galw am “undod” a’r angen i gyd-weithredu, meddai David Cameron.

Ond gwrthod hynny wnaeth Boris Johnson gan ddweud: “Dydw i ddim yn credu bod y Prif Weinidog o ddifrif yn meddwl y byddai gadael yr UE yn achosi Trydydd Rhyfel Byd ar gyfandir Ewrop.”