Ni fydd unrhyw newidiadau cyfreithiol i’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ar ôl i adolygiad o’r ddeddfwriaeth ddod i’r casgliad ei fod yn “gweithio’n dda”, cyhoeddodd y Llywodraeth.
Mae comisiwn annibynnol wedi bod yn ymchwilio i’r ddeddf yn dilyn honiadau gan rai yn y sector cyhoeddus ei fod yn rhoi gormod o bwysau arnyn nhw ac yn rhwystro gallu swyddogion i ddarparu cyngor cyfrinachol i weinidogion.
Ond dywedodd gweinidog Swyddfa’r Cabinet Matt Hancock na fyddai unrhyw newidiadau mawr i’r ddeddf, ac mae wedi rhoi addewid i annog tryloywder yn y sector cyhoeddus.
‘Gweithio’n dda’
Dywedodd: “Ar ôl 10 mlynedd fe wnaethon ni’r penderfyniad i adolygu’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ac rydym wedi darganfod ei fod yn gweithio’n dda.
“Ni fyddwn yn gwneud newidiadau cyfreithiol i’r ddeddf.”
Roedd y posibilrwydd o gyflwyno newidiadau i’r ddeddf wedi arwain at feirniadaeth gan newyddiadurwyr, gwleidyddion y gwrthbleidiau, ac ymgyrchwyr o blaid tryloywder.
Mae Bob Satchwell, cyfarwyddwr Cymdeithas y Golygyddion wedi dweud bod y cyhoeddiad heddiw yn “newyddion da” ond bod achos o hyd i ymestyn y pwerau i gynnwys sefydliadau sy’n gweithio ar ran cyrff cyhoeddus.