Mae gweinidogion yn wynebu rhagor o bwysau ynglŷn â chytundeb treth Google yn sgil honiadau bod yr Eidal yn bwriadu sicrhau ad-daliad sy’n gyfwerth a 15% o elw’r cwmni yn y wlad.
Mae’r Prif Weinidog David Cameron, y Canghellor George Osborne a rhai o ffigurau allweddol eraill y Llywodraeth o dan y chwyddwydr oherwydd eu cysylltiadau a’r cwmni – gan gynnwys cyfres o gyfarfodydd gydag uwch-swyddogion.
Mae Downing Street wedi mynnu bod y setliad o £130 miliwn yn “gytundeb da.”
Roedd y cwmni rhyngrwyd wedi taro bargen gyda’r Trysorlys y byddai’n talu £130 miliwn i ad-dalu treth a fyddai wedi bod yn ddyledus ers 2005.
Ond mae’r Blaid Lafur wedi dweud bod y swm yn “chwerthinllyd o fach.”
Mae canghellor yr wrthblaid John McDonnell wedi ysgrifennu at George Osborne yn mynnu manylion y setliad gan holi a oedd ef neu unrhyw un arall o’r tîm yn Rhif 11 yn gysylltiedig â’r cytundeb.
Mae hefyd eisiau gwybod a oedd Rhif 10 yn gysylltiedig â’r trafodaethau am y cytundeb cyn ei gyhoeddi.