David Cameron
Fe fydd y Prif Weinidog yn annog busnesau  i gefnogi ei ddiwygiadau i’r Undeb Ewropeaidd dros y tridiau nesaf wrth i’r Fforwm Economaidd Rhyngwladol ddechrau yn y Swistir.

Bydd David Cameron yn cynnal trafodaethau gydag arweinwyr gwleidyddol a chorfforaethau mewn digwyddiad blynyddol yn  Davos, wrth iddo geisio sicrhau cytundeb o fewn wythnosau.

Ei obaith yw cwblhau pecyn diwygio ar yr undeb i gyflwyno i bleidleiswyr gwledydd Prydain yn y refferendwm ar ei haelodaeth yn Ewrop.

Ond, mae’n debygol mai ymdrechion brys i geisio delio â’r argyfwng ffoaduriaid fydd yn hawlio’r sylw yn y trafodaethau, gyda’r DU yn rhoi addewid i wrthwynebu unrhyw gynnig i ddileu rheolau sy’n gorfodi pobol i geisio am loches yn y wlad gyntaf maen nhw’n ei chyrraedd.

 

Gobeithio taro bargen

Yn yr uwchgynhadledd ym Mrwsel ar 18 Chwefror, mae’r Prif Weinidog yn dal i obeithio taro bargen i berswadio pobl i bleidleisio dros aros yn yr UE.

Os felly, gall refferendwm gael ei chynnal mor fuan â mis Mehefin.

Bydd David Cameron yn annerch arweinwyr yn Davos i geisio ennyn cefnogaeth dros ei ddiwygiadau, sy’n cynnwys lleihau budd-daliadau i fewnfudwyr.

Dywedodd ei lefarydd swyddogol y byddai’n atgoffa arweinwyr busnes bod “llawer o’r diwygiadau yn bethau y maen nhw wedi bod yn galw amdanynt”, o ran gwella cystadleuaeth y farchnad.

Bydd hefyd yn defnyddio’r digwyddiad i gasglu cefnogaeth am ei gynnig i greu cyfleoedd economaidd i fewnfudwyr o Syria yng ngwledydd fel Gwlad yr Iorddonen, i leihau nifer y bobol sy’n dod i Ewrop i edrych am fywyd newydd.

Mae hyn yn dod ychydig wythnosau cyn cynnal cynhadledd ar Syria yn Llundain y mis nesaf.