Y Canghellor
Dyw’r Trysorlys ddim wedi dechrau gwneud unrhyw gynlluniau ar gyfer beth allai ddigwydd petai Prydain yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl George Osborne.
Mynnodd y Canghellor ei fod yn fwyfwy hyderus y byddai David Cameron yn llwyddo i daro bargen gydag arweinwyr Ewropeaidd ynglŷn â diwygiadau fyddai’n plesio etholwyr Prydain.
Fe gyfaddefodd ei fod o ei hun yn ddrwgdybus o’r Undeb Ewropeaidd, gan ddweud nad oedd hynny’n golygu ei fod eisiau i Brydain adael.
Mae disgwyl i refferendwm ar y mater gael ei chynnal rywbryd eleni, ac fe bwysleisiodd Osborne “na fydd ail bleidlais” ar y mater ymhen ychydig flynyddoedd, pa bynnag ffordd yr aiff hi.
Torïaid wedi’u rhannu
Mae’r ymgyrch dros le Prydain yn Ewrop eisoes wedi creu hollt o fewn y blaid Geidwadol, gyda rhai o’i phrif aelodau fel Boris Johnson, Theresa May a Chris Grayling eisoes wedi awgrymu y gallen nhw ymgyrchu o blaid gadael.
Fe fydd David Cameron a George Osborne mwy na thebyg yn ymgyrchu i aros yn yr Undeb Ewropeaidd, fodd bynnag, a hynny ar ôl iddyn nhw geisio perswadio gwledydd Ewropeaidd i dderbyn diwygiadau fyddai’n cynnwys cwtogi taliadau lles i fewnfudwyr.
Er y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn debygol o greu heriau ariannol sylweddol i Brydain yn y tymor byr, mynnodd George Osborne nad oedd y Trysorlys wedi dechrau cynllunio ar gyfer y posibiliad hwnnw.
“Na, mae’r Trysorlys yn canolbwyntio’n llwyr ar y trafodaethau [diwygio gyda’r arweinwyr Ewropeaidd],” meddai George Osborne ar raglen Newsnight.
“Dyna ble mae adnoddau’r Trysorlys wedi cael eu cyfeirio.”
‘Dim ail bleidlais’
Yn ddiweddar fe awgrymodd Maer Llundain Boris Johnson y byddai pleidlais o blaid gadael Ewrop yn ffordd o ddod ag arweinwyr Ewropeaidd yn ôl at y bwrdd er mwyn cynnig bargen well i Brydain.
Ond wfftio hynny wnaeth George Osborne, gan ddweud nad oedd yn disgwyl pleidlais arall ar y mater am genhedlaeth arall o leiaf.
“Fydd dim ail bleidlais. Dyma benderfyniad tyngedfennol ein bywydau,” meddai’r Canghellor.
“Mae unrhyw un sydd yn credu y gallwch chi bleidleisio ‘allan’ a chymryd y byddwn ni’n cael pleidlais arall mewn blwyddyn neu ddwy yn bod yn afrealistig ynglŷn â natur y dewis sydd yn ein hwynebu.”