Hysbyseb rhoi organau gan Lywodraeth Cymru
Mae tystiolaeth newydd am y pum mlynedd diwetha’ yn awgrymu problemau i ddeddf newydd yng Nghymru sy’n cymryd yn ganiataol bod pobol am roi organau ar ôl marw – os na fyddan nhw’n dweud fel arall.

Yn ôl corff gwaed a thrawsblaniadau’r gwasanaeth iechyd yn Lloegr, roedd teuluoedd wedi atal trawsblannu yn un o bob saith achos lle’r oedd y person a fu farw wedi dweud ynghynt eu bod eisiau hynny.

Mae’r corff yn awr am geisio cyflwyno mesurau a fyddai’n ei gwneud hi’n anoddach i deuluoedd wneud hyn yn y dyfodol.

Y sefyllfa yng Nghymru

Daeth Deddf Rhoi Organau’r Cynulliad yng Nghymru i rym llynedd, sydd yn golygu mai Cymru yw’r unig wlad ym Mhrydain ar hyn o bryd sydd bellach yn cynnwys pobol ar y gofrestr rhoi organau yn awtomatig, oni bai eu bod nhw’n gofyn i gael tynnu’u henwau oddi arni.

Ond mae cefnogwyr amlwg fel y canwr Rhys Meirion wedi rhybuddio y bydd meddygon yn gofyn am hawl perthnasau cyn bwrw ymlaen gyda chymryd organau.

Adeg cyhoeddi’r polisi, fe ddywedodd wrth Golwg360 bod rhaid sicrhau cefnogaeth teuluoedd hefyd neu fyddai’r ddeddf newydd ddim yn gwneud gwahaniaeth.

‘Ddim eisiau eu siomi’

Yn ôl y gwasanaeth trawsblannu yn Lloegr, yr NHSBT, fe allai tua 1,200 o’r 6,500 sydd yn aros am drawsblaniad fod wedi cael organ petai teuluoedd heb atal rhoddwyr, ac fe allai peidio â gofyn am ganiatâd perthnasau olygu bod nifer y rhoddwyr organau sydd ar gael yn cynyddu o 9%.

Un awgrym sydd gan NHSBT fyddai rhoi pamffled yn esbonio bod cydsyniad i roi organau wedi cael ei roi gan y person sydd wedi marw, ond fe allai teuluoedd atal hynny o hyd o roi rhesymau mewn du a gwyn.

Mae cynlluniau ar y gweill yn yr Alban a Gogledd Iwerddon i geisio cyflwyno deddf rhoi organau tebyg i un Cymru, ond dyw llywodraeth San Steffan ddim wedi dehrau ar gamau tebyg ar gyfer Lloegr eto.

“Mae pobl sydd yn ymuno â’r gofrestr rhoi organau yn disgwyl gallu bod yn rhoddwyr organau,” meddai Sally Johnson, cyfarwyddwr NHSBT, mewn cyfweliad â’r BBC. “Dydyn ni ddim eisiau ein bod ni’n eu siomi nhw.”