Mae’r achos cyntaf o anthracs mewn anifail ers 2006, wedi cael ei ganfod mewn buwch ar fferm yn Wiltshire, yn ne-orllewin Lloegr.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Lloegr, cafodd yr afiechyd ei ganfod yr wythnos diwethaf yn dilyn marwolaeth sydyn y fuwch.

“Rydym yn ymwybodol o gadarnhad o anthracs mewn buwch yn ardal Westbury o Wiltshire,” meddai Mike Wade, dirprwy gyfarwyddwr Diogelu Iechyd i Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn y De-orllewin.

Dywedodd hefyd fod y risg o bobl yn cael eu heintio gan yr afiechyd yn isel iawn, a’u bod mewn cyswllt gydag unrhyw un a allai fod wedi bod mewn cyswllt â’r anifail i gynnig cyngor.

Achos diwethaf yn Rhondda Cynon Taf

Cafodd yr achos diwethaf o anthracs ei ddarganfod bron i 10 mlynedd yn ôl ar fferm cig eidion yn Ne Cymru.

Roedd dwy fuwch wedi marw ar y fferm yn Rhondda Cynon Taf ym mis Ebrill 2006.

Marwolaeth dyn yn 2006

Mae anthracs yn afiechyd bacteriol sy’n effeithio ar anifeiliaid llysysol yn bennaf ond gall effeithio ar famaliaid.

Mae’r achosion o’r afiechyd mewn pobol yn brin iawn, gyda’r achos diwethaf yn 2008.

Bu farw dyn 50 oed o’r Alban o’r afiechyd yn 2006 ar ôl iddo ddefnyddio crwyn anifeiliaid i wneud gwaith celf.

Mae llwybr droed i’r fferm yn Wiltshire bellach wedi cael ei chau a chafwyd cadarnhad nad oes gwartheg o’r un cae wedi mynd i’r gadwyn fwyd.