Mae cyn-Brif Weinidog Prydain, Tony Blair wedi ymddiheuro am rai agweddau o ryfel Irac ar drothwy cyhoeddi adroddiad Chilcot.

Dywedodd Blair wrth orsaf CNN yn yr Unol Daleithiau ei fod yn difaru ei fethiant i gynllunio’n gywir ar gyfer goblygiadau lladd Saddam Hussein a’r gudd-wybodaeth ffals a gafodd ei defnyddio i gyfiawnhau’r penderfyniad i’w ladd.

“Rwy’n ymddiheuro am y ffaith fod y gudd-wybodaeth a dderbyniom yn anghywir,” meddai.

“Rwy hefyd yn ymddiheuro am rai o’r camgymeriadau wrth gynllunio ac yn sicr, ein camgymeriad wrth ddeall beth fyddai’n digwydd unwaith rydych chi’n gwaredu’r gyfundrefn.”

Awgrymodd fod y rhyfel yn Irac wedi arwain yn anuniongyrchol at dwf y Wladwriaeth Islamaidd dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon wedi cyhuddo Blair o ddechrau paratoi am y feirniadaeth a ddaw pan gaiff adroddiad Chilcot ei gyhoeddi.

Dywedodd fod y “wlad yn dal yn aros am y gwirionedd”, gan ychwanegu bod yr oedi cyn cyhoeddi adroddiad Chilcot yn “sgandal”.

Does dim dyddiad wedi cael ei bennu eto ar gyfer cyhoeddi’r adroddiad, chwe blynedd ar ôl i’r ymchwiliad gael ei sefydlu gan Gordon Brown.

Mae teuluoedd milwyr a gafodd eu lladd yn Irac yn bygwth dwyn achos pe na bai’r adroddiad yn cael ei gyhoeddi’n fuan.