Fe fyddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn dod ag “anfanteision difrifol”, mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) wedi rhybuddio gan ddweud bod y rhan fwyaf o gwmnïau eisiau aros yn rhan o’r UE.

Mae’r CBI yn cydnabod bod yna anfanteision o fod yn aelod o’r UE a bod angen diwygiadau, ond dywedodd bod y manteision o aros yn rhan o’r undeb yn sylweddol uwch na’r problemau sydd ar hyn o bryd.

Mar arweinwyr busnes wedi bod yn mynegi eu barn wrth i lywodraethwr Banc Lloegr Mark Carney baratoi i wneud ei gyhoeddiad ffurfiol cyntaf yn y ddadl cyn y refferendwm a fydd yn cael ei gynnal erbyn diwedd 2017.