Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf
Fe fydd David Cameron yn cynnal trafodaethau gyda Xi Jinping yn Downing Street wrth iddo geisio sicrhau cytundebau masnach gwerth £30 biliwn yn ystod ymweliad Arlywydd China a’r DU.

Mae disgwyl cadarnhad y bydd Beijing yn buddsoddi yng ngorsaf niwclear cyntaf y DU ers cenhedlaeth .

Fe fydd cwmni ynni EDF o Ffrainc yn gwneud cyhoeddiad am ei safle newydd yn Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf wrth i’r cwmni baratoi i wneud penderfyniad terfynol ynglŷn â’i fuddsoddiad.

Mae ’na ddyfalu mai China fydd yn berchen un rhan o dair o’r orsaf niwclear newydd ac mae disgwyl i’r gost gynyddu i £24 biliwn.

Bydd Xi Jinping yn gwneud y cyhoeddiad ar ail ddiwrnod ei ymweliad.

‘Cowtowio i China’

Yn y cyfamser mae un o gyn-ymgynghorwyr y Prif Weinidog wedi beirniadu’r croeso moethus sydd wedi cael ei roi i Xi Jinping.

Dywedodd Steve Hilton y dylai’r DU fod yn gosod sancsiynau ar China yn hytrach na’r croeso brwd sydd wedi bod i’r Arlywydd.

Mae David Cameron wedi bod dan bwysau i fynegi pryderon am hawliau dynol a mewnforion o ddur rhad sydd wedi cael y bai am golli miloedd o swyddi ym Mhrydain yn ddiweddar.

Mae Downing Street wedi wfftio honiadau bod y DU yn “cowtowio” i Arlywydd China ac wedi mynnu y bydd y materion hynny ar y bwrdd trafod yn ystod cyfarfodydd y ddau arweinydd.

Roedd arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn wedi ymuno a David Cameron a nifer o westeion eraill ar gyfer gwledd ym Mhalas Buckingham neithiwr. Mewn cyfarfod preifat gyda Xi Jinping yn y Palas, roedd Jeremy Corbyn wedi codi nifer o faterion gan gynnwys hawliau dynol a’r argyfwng yn y diwydiant dur.

Yn ôl gweinidogion mae gan y buddsoddiad o China y potensial i greu 3,900 o swyddi ar draws y DU.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes Sajid Javid: “Mae partneriaethau rhyngwladol yn hanfodol i adeiladu Prydain sy’n gryfach, yn fwy llewyrchus ac yn llawn cyfleoedd.

“Fe fydd cytundebau fel y rhai sy’n cael eu cyhoeddi heddiw yn sicrhau bod ein heconomi yn parhau’n sefydlog a bod ein busnesau’n teimlo eu bod mewn sefyllfa dda i wynebu’r dyfodol.”