Jeremy Corbyn
Mae Jeremy Corbyn wedi’i gwneud hi’n glir ei fod yn barod i barhau i frwydro’n erbyn arfau Trident, a hynny trwy dderbyn swydd is-lywydd y mudiad gwrth-niwcliar, CND.
Mae arweinydd newydd y blaid Lafur yn wynebu rhwyg mawr o fewn ei blaid ar fater Trident, gyda phleidlais fawr i’w chynnal yn Nhy’r Cyffredin ar y mater o fewn y misoedd nesa’.
Mae Jeremy Corbyn wedi bod yn ddirprwy gadeirydd CND am flynyddoedd. Roedd disgwyl iddo annerch cynhadledd CND yn Llundain y penwythnos hwn, ond mae wedi tynnu’n ôl oherwydd ymrwymiadau eraill.
Ond, tra bod Mr Corbyn yn rhoi’r gorau i fod yn ddirprwy gadeirydd CND, mae’r mudiad wedi cadarnhau y bydd o hyn allan yn ddirprwy lywydd yn hytrach nag ymddiswyddo’n llwyr.
“Mae’r swydd hon yn deyrnged addas i ddyn egwyddorol iawn sydd wedi rhoi oes o ymroddiad i CND ac i fater diarfogi niwcliar, meddai Ysgrifennydd Cyffredinol CND, Kate Hudson said.