Mae ymgyrch i gadw Prydain yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd (UE) wedi cael ei lansio’n swyddogol yn Llundain heddiw.

Mae’r Arglwydd Rose, cyn-bennaeth Marks & Spencer ac arweinydd yr ymgyrch, wedi dweud y byddai gadael yr UE yn “naid yn y tywyllwch” ac yn costio miloedd o bunnoedd i gartrefi Prydain.

Mae hefyd yn gwrthod y syniad fod rhesymau ‘gwladgarol’ dros adael yr UE.

Mae disgwyl i’r refferendwm dros aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd gael ei chynnal rhyw ben cyn diwedd 2017, ond mae rhai yn honni y gallai ddigwydd mor gynnar â’r gwanwyn nesaf.

‘Galw am ddiwygio’

Mae’r Arglwydd Rose yn credu y bydd Prydain “yn gryfach, ar ei hennill ac yn fwy diogel fel rhan o Ewrop.”

Ond mae hefyd yn cydnabod fod angen diwygio rhai elfennau o’r Undeb Ewropeaidd.

“Mae galw am ddiwygio, serch hynny, yn hollol wahanol i alw am adael.”

“Bydd y rhai ohonoch sy’n fy adnabod i yn gwybod nad ydw i’n gefnogwr anfeirniadol o’r Undeb Ewropeaidd. Dim o gwbl. Dyna pam rwy’n llofnodi llythyr a drefnwyd gan Fusnes ar gyfer Prydain yn galw am ddiwygio’r UE,” meddai.

Ond, mae hefyd yn nodi na fyddai gadael yr UE “yn werth y risg”. Fe fydd yn rhestru rhai o’r oblygiadau all godi megis mynediad at fasnachu rhydd Ewrop, ail-drafod cytundebau masnachu, neu wneud cytundebau newydd y tu allan i’r UE.

Mae nifer o gynrychiolwyr o wahanol sectorau yn rhan o’r ymgyrch Britain Stronger in Europe.

 

Mae’r rhain yn cynnwys cyn-bennaeth y staff cyffredinol Syr Peter Wall, Karren Brady sy’n is-gadeirydd West Ham ac yn seren ar y gyfres The Apprentice, ynghyd â June Sarpong sy’n banelydd ar raglen ITV Loose Women.

Mae rhai o’r cyn-brif weinidogion, gan gynnwys Syr John Major, Gordon Brown a Tony Blair, hefyd wedi dangos eu cefnogaeth i’r ymgyrch.

Grwpiau gadael

Mae dau grŵp i gefnogi’r ymgyrch i adael yr Undeb Ewropeaidd i’w cael ar hyn o bryd, sef Leave.EU a Vote Leave.

Fe ddywedodd Nigel Farage, arweinydd UKIP, ei fod yn cefnogi’r ddwy. Ond, bydd y grŵp sy’n ennill statws swyddogol y Comisiwn Etholaethol yn derbyn nifer o fanteision, gan gynnwys ymgyrchoedd wedi’u darlledu a gwariant cyhoeddus hyd at £600,000.

Mae arweinydd UKIP hefyd yn gobeithio y bydd modd dwyn perswâd ar Faer Llundain, Boris Johnson, i gymryd rôl flaenllaw yn yr ymgyrch dros adael yr Undeb Ewropeaidd.