Mae Aelodau Seneddol yn ceisio annog y Canghellor, George Osborne, i godi pris baco, er mwyn helpu ysmyswyr i roi’r gorau i’r arfer.

Mae’r Grwp Seneddol Aml-Bleidiol ar Ysmygu a Iechyd eisiau gweld y gyfradd flynyddol ar faco yn codi o 2% i 5%.

Fe fyddai gwneud hynny’n codi £100m bob blwyddyn i’r Trysorlys, a’r ddadlau ydi y gallai’r swm hwnnw gael ei ddefnyddio i helpu pobol i roi’r gorau i ysmygu, meddai’r Grwp, gan awgrymu hefyd y dylid cynyddu’r gwariant ar ymgyrchoedd gwrth-ysmygu o £200m i £300m.

“Nid marw’n gynt yn unig y mae ysmygwyr, ond maen nhw’n diodde’ rhai blynyddoedd cyn marw o afiechyd ac anabledd,” meddai Cadeirydd y Grwp, Bob Blackman, AC Ceidwadol Harrow East.

“Mae hynny’n rhoi pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”